Flavio Biondo | |
---|---|
Ganwyd | 1388, 1392, 1392 Forlì |
Bu farw | 4 Mehefin 1463 Rhufain |
Galwedigaeth | hanesydd, archeolegydd, daearyddwr, dyneiddiwr y Dadeni |
Prif ddylanwad | Strabo |
Hanesydd Eidalaidd a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Flavio Biondo (Lladin: Flavius Blondus; 1392 – 4 Mehefin 1463).[1]
Ganed yn Forlì yn rhanbarth Romagna, dan awdurdod Taleithiau'r Babaeth. Derbyniodd addysg dda a fe'i hyfforddwyd yn ysgrifennydd a chopïwr llawysgrifau. Gweithiodd yn notari, gwas sifil, a sgrifellwr yn Fenis. Ym 1433 symudodd Biondo i Rufain ac enillodd ffafr y Pab Eugenius IV. Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd apostolaidd yn Llys y Pab ym 1434. Aeth i Fenis ar genhadaeth ddiplomyddol ac ymwelodd â'r condottiere Francesco Sforza, a fe'i danfonwyd i Gyngor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438–45). Collodd Biondo ffafr dan deyrnasiad y Pab Niclas V.
Mae ei brif waith, Historiarum ab inclinatione Romanorum libri ("Y hanes ers cwymp Rhufain"; 1453), yn ymwneud â hanes yr Eidal o 410 i'r 1440au. Biondo a fathai'r enw "Yr Oesoedd Canol" i ddisgrifio'r cyfnod rhwng yr Henfyd a'r Dadeni. Ymhlith ei weithiau eraill mae De Roma instaurata (3 cyfrol, 1444–46) ar bwnc topograffeg Rhufain hynafol a De Roma triumphante (1459) sydd yn trafod yr hen drefn Rufeinig yn fodel ar gyfer sefydliadau gweinyddol a milwrol. Cyfrannodd Biondo yn sylweddol at wladgarwch Rhufeinig, parch at yr Henfyd yn ystod y Dadeni, a'r syniad o'r Eglwys Gatholig yn olynydd i'r Ymerodraeth Rufeinig.